Spain

Prosiect Storio Ynni Pentir

Y PROSIECT MEWN RHIFAU

57MW

/228MWh battery

96

battery containers (or equivalent)

6.5

acres of land (approx)

40-year

operational life

STATWS PRESENNOL

Dewis safle

Asesiadau rhagarweiniol, cynllunio'r safle ac ymgysylltu cymunedol

Cais cynllunio

Rhyddhau amodau cynllunio

Adeiladu

Gweithrediad

Datgomisiynu

Mae Lightsource bp wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect storio ynni ym Mhentir, Bangor, Gwynedd. Byddwn yn ariannu ac yn gweithredu safle batri 57MW/228MWh (4 awr o hyd) wedi’i gysylltu â’r rhwydwaith trydan lleol. Bydd y batri yn hwyluso integreiddio ynni adnewyddadwy yn y grid, gan helpu i gefnogi trydan cost isel a gwell dibynadwyedd y grid trydan.

Rydyn ni wedi dewis y safle hwn ar ôl ystyriaeth ofalus, a bellach rydyn ni’n cynnal ystod eang o asesiadau amgylcheddol i helpu i lunio ein cynlluniau. Mae’r rhain yn cynnwys tirwedd ac elfennau gweledol, treftadaeth, ecoleg, sŵn, llifogydd a rhagor.

Cynhaliom ddigwyddiad gwybodaeth ar 21ain o ed Fai yn Neuadd Bentref Rhiwlas, i hysbysu’r gymuned leol a gofyn am eu hadborth. Roedd cynrychiolwyr o Lightsource bp wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y cynnig gan drigolion lleol a phartïon sydd â diddordeb, ac anfonwyd taflen wybodaeth i’r gymuned leol, yn ogystal â datganiad i’r wasg i bapurau newydd lleol.

Yn dilyn cyflwyno’r cais cynllunio, adolygwyd y prosiect gan y pwyllgor cynllunio, a bleidleisiodd i’w gymeradwyo.

Adnoddau a dogfennau

Gweler isod am wybodaeth am Prosiect Pentir a storio ynni yn gyffredinol:

Lawrlwytho’r Daflen Wybodaeth

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu rhagor am brosiectau storio ynni Lightsource bp.