UNITED STATES

Solar a Storio Ynni Maen Hir

Y Prosiect

Prosiect Maen Hir, prosiect ynni solar ac arbed ynni gyda gallu cynhyrchu o 360 megawat (MW) cerrynt eiledol (AC). Mae hyn yn golygu y gallai gynhyrchu digon o ynni glân i bweru dros 140,000 o gartrefi (cywerthedd) ac osgoi dros 70,000 o dunelli o CO2 bob blwyddyn.

Bydd y Prosiect yn cyflwyno buddion economaidd, cymunedol ac amgylcheddol, ac wrth wneud hynny, chwarae rhan allweddol yn Rhaglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn.

Byddai’r Prosiect hefyd yn cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru i gyflawni Net Sero erbyn 2050 ac i gynhyrchu tua 70% o drydan o ffynonellau adnewyddadwy.

Mae’r safle Solar PV yn cynnwys tua 1,284 hectar (ha) ar draws tri darn o dir:

• Gogledd Maen Hir – yn cynnwys tir ger Rhosgoch a Bodewryd
• Canol Maen Hir – yn cynnwys tir o gwmpas ymyl ogleddol a dwyreiniol Llyn Alaw
• De Maen Hir ‘A’ a ‘B’ – yn cynnwys tir i’r gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain o Lannerchymedd

Mae’r tir yn cynnwys caeau amaethyddol a ddefnyddir ar gyfer pori’n bennaf, gyda darn o dir llwyd o fewn Gogledd Maen Hir ger Rhosgoch, a oedd gynt yn ddepo olew.

Mae’r Prosiect hefyd yn cynnwys Prosiect Solar Cymunedol 5MWp*. Bydd yr incwm a gynhyrchir o hyn yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sy’n uniongyrchol fuddio cymunedau lleol a’r amgylchedd, a allai gynnwys ategu seilwaith presennol a chreu mannau hamdden newydd.

Mae’r cyn-Ddepo Olew wedi’i gynnig fel y lleoliad dewisol ar gyfer y Prosiect Solar Cymunedol ac Arbed Ynni. Gallai’r Prosiect gynnwys gwelliannau seilwaith ar y safle tir llwyd a allai helpu i ddatgloi ei botensial datblygu a chefnogi cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae ein dyluniad yn ddangosol. Gall rhai elfennau a ddangosir ar y cynllun meistr newid yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwn yn ystod yr ymgynghoriad.

Bydd y prosiect yn weithredol am hyd at 60 mlynedd. Yn ystod y cyfnod gweithredol, bydd y tir o dan ac o amgylch y paneli solar yn parhau’n dir glaswelltog ac yn cael ei reoli drwy bori neu dorri er mwyn gwarchod adnoddau pridd ac ansawdd tir amaethyddol. Ar ddiwedd y cyfnod gweithredol, bydd y prosiect yn cael ei ddatgomisiynu a’r tir yn cael ei adfer.

*MWp yw’r gallu uchaf (brig) o gapasiti solar MW DC gosodedig

Lleoliad y Prosiect

Sut mae Ffermydd Solar yn Gweithio

Mae ffermydd solar yn dal golau’r haul er mwyn cynhyrchu trydan, sy’n cael ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol drwy is-orsaf. Gellir storio ynni ychwanegol a gynhyrchir mewn batri a’i fwydo i’r rhwydwaith pan fydd galw mawr. Mae ardaloedd gweithrediadol y safle yn wedi eu hamgylchynu gyda ffens diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch y safle a’r gymuned leol fel ei gilydd. Bydd mesurau diogelwch megis camera cylch cyfyng yn eu lle, er na fydd y safle yn cael ei oleuo yn y nos.

Mae’r paneli solar wedi eu trefnu’n rhesi a’u cysylltu gyda cheblau sy’n trosglwyddo’r ynni a gynhyrchir i wrthdroyddion.

Mae gwrthdroyddion yn hanfodol er mwyn trosi’r trydan cerrynt union (DC) a gynhyrchir gan y paneli solar i gerrynt eiledol (AC), sef y math o drydan a ddefnyddir mewn cartrefi a busnesau. Mae’r is-orsafoedd parsel 33kV yn casglu’r trydan a gynhyrchir, ac mae’r is-orsaf prosiect 132kV yn cynyddu ei foltedd cyn ei drosglwyddo i is-orsaf y Grid Cenedlaethol.

Mae storio batri yn chwarae rhan allweddol er mwyn cadw’r trydan yn ystod yr amser pan na fydd llawer o alw amdanon, a’i ryddhau pan fydd ei angen fwyaf.

Gall gwrthdroyddion gael eu lleoli o dan y paneli solar neu mewn ardaloedd dynodedig. Mae’r ardaloedd hyn, hefyd yn gartref i offer megis gêr trosglwyddo, sy’n rheoli systemau trydanol, a thrawsnewidyddion, sy’n cynyddu’r foltedd i’r lefel angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo i’r is-orsaf.

Defnyddir ceblau tanddaearol er mwyn cysylltu gwahanol rannau o’r fferm solar a throsglwyddo trydan i is-orsaf y Grid Cenedlaethol.

Buddion y Prosiect

Mae’r Prosiect yn cynnig ystod eang o fuddion i’r gymuned leol ac economi’r rhanbarth, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, gwelliannau amgylcheddol, a manteision cymdeithasol hirdymor.

Buddion Economaidd a Chyflogaeth

Bydd y Prosiect yn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer creu swyddi lleol a thwf economaidd. Yn ystod y cyfnod adeiladu, disgwylir creu tua 1,320 o swyddi. Yn ystod y cyfnod gweithredol bydd y prosiect yn cefnogi tua 10-12 o swyddi llawn amser. Bydd y rolau hyn yn amrywio o swyddi arbenigol a hynod fedrus i lafur cyffredinol, gan ddarparu sbectrwm eang o gyfleoedd cyflogaeth. Yn ychwanegol, bydd yr economi’n elwa o swyddi anuniongyrchol, a gefnogir drwy’r gadwyn gyflenwi.

Drwy bartneru â sefydliadau addysgol lleol megis Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor, bydd y Prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad sgiliau yn y sector ynni adnewyddadwy, gan sicrhau manteision parhaol i’r gymuned. Ceir mwy o fanylion am y mentrau hyn yn ein Strategaeth Cyflogaeth a Sgiliau Ddrafft (PESS) sydd wedi’i chynnwys yn y deunyddiau ymgynghori.

Bydd y Prosiect hefyd yn fuddiol i weithgareddau amaethyddol lleol. Bydd yn darparu ffynhonnell incwm ychwanegol i ffermydd lleol, wrth iddynt barhau â gweithgareddau ffermio hanfodol megis pori defaid. Bydd y refeniw ychwanegol hwn yn helpu i gefnogi parhad gweithgareddau amaethyddol ar Ynys Môn, gan fanteisio ar y gymuned ffermio leol wrth gynnal cymeriad gwledig yr ardal.

Diogelwch Ynni a Gwelliannau Seilwaith

Trwy wella dibynadwyedd cyflenwad pŵer cenedlaethol, bydd Prosiect Maen Hir yn cyfrannu at annibyniaeth ynni a diogelwch rhanbarthol. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu anghenion pŵer y rhanbarth wrth gefnogi’r trawsnewid i ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Yn ogystal, mae’r Prosiect yn cefnogi Rhaglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn ac yn cyfrannu at dargedau net sero rhanbarthol a chenedlaethol.

Buddion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth

Nod y Prosiect yw cyfoethogi’r amgylchedd lleol trwy wella bioamrywiaeth, creu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt, a chynnal gweithgareddau amaethyddol fel pori da byw a phlannu blodau gwyllt. Bydd yr ymdrechion hyn yn hyrwyddo iechyd yr ecosystem leol ac yn cyfrannu at y nod ehangach o gynaliadwyedd amgylcheddol.

Bydd adfer nodweddion traddodiadol y dirwedd, megis ‘cloddiau’ (caeau wedi’u harwynebu â cherrig), yn helpu i atgyfnerthu cymeriad a diwylliant y rhanbarth, tra hefyd yn cefnogi bioamrywiaeth. Drwy integreiddio amaethyddiaeth, creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, a gwella bioamrywiaeth, bydd y Prosiect yn sicrhau bod amgylchedd unigryw Môn yn cael ei gadw a’i wella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae rhagor o fanylion ar fuddion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth ar gael yn yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol

Buddion Cymunedol a Chymdeithasol

Mae’r Prosiect yn darparu amrywiaeth o fuddion sylweddol i’r gymuned leol, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno prosiect solar cymunedol 5MWp. Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y prosiect hwn yn cael ei ddyrannu i fentrau lleol a phrosiectau amgylcheddol, gan ddarparu cymorth tymor hir ar gyfer rhaglenni cymunedol.

Mae’r Prosiect hefyd yn anelu at wella adnoddau hamdden ac amwynder i’r gymuned leol ac ymwelwyr. Bydd y Prosiect yn archwilio cyfleoedd i wella hawliau tramwy cyhoeddus presennol, gan eu gwneud yn fwy hygyrch a phleserus i bawb. Gallai’r gwelliannau hyn ddarparu buddion parhaol i’r gymuned leol trwy hyrwyddo llesiant a gwella ansawdd bywyd. Mae rhagor o fanylion ar fuddion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth ar gael yn yr Adroddiad Buddion Cydweithredol.

Y Broses Gynllunio

Mae Prosiect Maen Hir wedi’i ddosbarthu fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) oherwydd ei fod wedi’i gynnig i gael gallu cynhyrchu o fwy na 350 MW.

Proses Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO)

Mae hyn yn golygu, i adeiladu Maen Hir, byddwn yn gwneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO). Mae ceisiadau DCO yn cael eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS) ac yn cael eu gwneud i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero (DESNZ). Bydd y cais DCO yn destun archwiliad gan awdurdod archwilio a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud argymhelliad iddynt ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad datblygu ai peidio. Mae’r penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad datblygu ai peidio yn gorffwys gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae mwy o wybodaeth am y broses DCO ar gael yma.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae adborth gan y gymuned yn hanfodol i’n helpu i lunio’r Prosiect a sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Rydym yn croesawu eich adborth ar wahanol elfennau o’r Prosiect, fel cynllun y safle, ystyriaethau amgylcheddol, a buddion i’r gymuned.

Cyn cyflwyno cais DCO, mae’n rhaid i ni gynnal ymgynghoriad statudol yn unol â Deddf Cynllunio 2008. Mae manylion am sut rydym yn ymgynghori wedi’u nodi yn ein Datganiad Ymgynghoriad Cymunedol (‘SoCC’), y gallwch ddod o hyd iddo yn yr adran dogfennau.

Yr Hyn Rydym yn Ymgynghori Arno

Yn ystod yr ymgynghoriad statudol, byddwn yn croesawu ac ystyried adborth ar bob agwedd ar y Prosiect, ac yn gwahodd sylwadau ar y canlynol:

  • Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ddrafft (PEIR), sy’n manylu ar ganlyniadau a chyflwyniad ein hasesiadau amgylcheddol drafft a’r lliniaru cysylltiedig
  • Nodweddion gweithredol tymor hir arfaethedig, megis sut y gallai’r Prosiect edrych i gymdogion, a chael ei brofi ganddynt
  • Nodweddion dros dro arfaethedig tymor byr, megis cynlluniau ar gyfer y gwaith adeiladu
  • Buddion posibl sy’n gysylltiedig â’r Prosiect, megis y cyfle ar gyfer cynllun solar cymunedol 5MW, a allai gynnwys cyfleoedd i wella seilwaith gwyrdd neu gyfleoedd hamdden o fewn safle’r Prosiect

Dyddiadau Ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad statudol ar y Prosiect yn cael ei gynnal rhwng Dydd Mercher 02 Hydref a Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024. Rydym yn rhannu gwybodaeth fwy manwl am y Prosiect ac, i unrhyw un sydd â diddordeb, i gyflwyno eu barn i’w hystyried.

Digwyddiadau Gwybodaeth

Fel rhan o’r ymgynghori statudol, rydym yn cynnal wyth digwyddiad gwybodaeth wyneb yn wyneb a dwy weminar gymunedol ar-lein i roi cyfle i chi siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm y Prosiect, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gellir dod o hyd i fanylion y digwyddiadau gwybodaeth a’r gweminarau isod.

Sut i Gymryd Rhan

Rydym yn croesawu eich adborth ar ein Prosiect. Gallwch gyflwyno eich sylwadau yn y ffyrdd canlynol:

• Cyflwyno ffurflen adborth ar-lein
• Llenwi copi papur o’r ffurflen adborth, y gellir ei chyflwyno mewn digwyddiad gwybodaeth wyneb yn wyneb neu ei dychwelyd i gyfeiriad rhadbost y Prosiect
• Anfon e-bost at: maenhir@lightsourcebp.com
• Darparu sylwadau yn ysgrifenedig a’u postio am ddim, i FREEPOST MAEN HIR PROJECT

Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i ni ddatblygu dyluniad y Prosiect.

  • Mercher 09 Hydref, 13.30-19.30 – Neuadd y Dref Llangefni Sgwâr Bulkeley, Llangefni, LL77 7LR
  • Gwener 11 Hydref, 13.30-19.30 – Neuadd y Pentref Talwrn, Talwrn, LL77 7SU
  • Iau 17 Hydref, 13.30-19.30 – Neuadd Bentref Llanddeusant, Llanddeusant, Caergybi, LL65 4AA
  • Gwener 18 Hydref, 13.30-19.30 – Neuadd Goffa Amlwch, 18 Stryd y Farchnad, Amlwch LL68 9ET
  • Sadwrn 19 Hydref, 10.00-14.00 – Neuadd Bentref David Hughes, Stryd Fawr, Cemaes LL67 OHL
  • Mawrth 22 Hydref, 18.00-19.00 – Digwyddiad ar-lein (Cymraeg) Cofrestrwch i fynychu ar ein gwefan
  • Sadwrn 26 Hydref, 10.00-14.00 – Y Ganolfan, Ysgol Gymuned Llannerchymedd, Llannerchymedd, LL71 8DP
  • Llun 28 Hydref, 13.30-19.30 – Canolfan Gymunedol Ysgol Llanfechell, Lon y Mynydd, Llanfechell, LL68 0SA
  • Mawrth 29 Hydref, 13.30-19.30 – Canolfan Gymunedol Ysgol Rhosybol, Rhosybol, Amlwch, LL68 9PP
  • Mercher 30 Hydref, 18.00-19.00 – Digwyddiad ar-lein (Saesneg), Cofrestrwch i fynychu ar ein gwefan 

Camau Nesaf

Wedi i ail gam yr ymgynghoriad ddirwyn i ben, byddwn yn adolygu’r holl adborth rydym wedi’i dderbyn yn ofalus, ynghyd â’r canfyddiadau o’n hasesiadau presennol, er mwyn cwblhau’r cynigion ar gyfer Prosiect Maen Hir.

Pan fydd y cynigion yn barod, byddwn yn cyflwyno ein cais ar gyfer caniatâd datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS). Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y byddwn yn cyflwyno’r cais tuag at ddiwedd 2025.

Low shot through flowers of two people on a solar farm pointing at the panels

Cyfleoedd Pellach i Rannu Eich Safbwyntiau

Wedi i’n cais gael ei gyflwyno a’i dderbyn, bydd gennych gyfle i gofrestru eich diddordeb yn uniongyrchol gyda’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn eich diweddaru ynghylch cynnydd y cais yn ystod y cam archwilio ac yn eich hysbysu o unrhyw gyfleoedd pellach i gyfrannu at y broses.

Llyfrgell Dogfennau

Cofrestru i Gael yr Wybodaeth Ddiweddaraf

I ddarllen ein cylchlythyr cymunedol diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, cliciwch yma.

Rydym wedi ymrwymo o hyd i ymgysylltu’n agored ac yn dryloyw â’r gymuned drwy gydol y broses hon.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Maen Hir, gallwch gofrestru i gael diweddariadau am y prosiect yn uniongyrchol i’ch blwch derbyn. Llenwch y ffurflen isod i gofrestru gyda ni a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newyddion a datblygiadau sy’n ymwneud â’r cynigion, gan gynnwys pan fydd rhagor o wybodaeth am y datblygiad arfaethedig a’r digwyddiadau cymunedol sydd ar y gweill yn dod ar gael.

Yn y cyfamser, rydym bob amser wrth law i gynorthwyo gydag unrhyw un o’ch ymholiadau ynghylch Prosiect Maen Hir, ac rydym wedi sefydlu llinellau cyfathrebu wedi’u neilltuo ar gyfer y prosiect er mwyn i chi allu cysylltu â ni, Llun-Gwener rhwng 9am a 5pm:

  • E-bost: maenhir@lightsourcebp.com
  • Rhadffôn: Cymraeg: 08081 756663 / Saesneg: 08081 756375
  • Rhadbost (am ddim; does dim angen stamp): FREEPOST MAEN HIR PROJECT

Manylion Cyswllt

Post di-dâl: FREEPOST MAEN HIR PROJECT (dim angen stamp) Gwe (Cymraeg): lightsourcebp.com/maenhir-cymraeg Gwe (Saesneg): lightsourcebp.com/maenhir-english

maenhir@lightsourcebp.com Rhadffôn: Cymraeg: 08081 756663 / Saesneg: 08081 756375

*Indicates required field

Solar Môn

Er nad yw’n weithredol ar hyn o bryd, mae’r dudalen we bwrpasol ar gyfer Fferm Solar Môn ar gael i’r cyhoedd drwy’r ddolen hon.

I weld y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion, arhoswch ar y dudalen we hon i weld Disgrifiad o Brosiect Maen Hir a’r Cwestiynau Cyffredin a nodir uchod.